Tuesday 2 June 2009

Fy Mlogosphere Cymraeg - Heledd Fychan

Mae yna ddau reswm pam dwi’n cadw blog. Y cyntaf: dwi’n mwynhau ‘sgwennu a chael ymateb i’r hyn dwi’n ei ddweud. A’r ail? Wel, fel ymgeisydd seneddol mewn sedd na fysa neb fel arfer yn rhoi llawer o sylw i Blaid Cymru, mae’n ffordd rad a hawdd o godi fy mhroffil ymysg y rhai hynny sydd yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, gan gynnwys etholwyr, cyd-flogwyr, cyd-ymgeiswyr a newyddiadurwyr.

Yn hynny o beth, mae’n sicr wedi bod yn werth chweil. Mae’r mwyafrif o sylw dwi wedi ei dderbyn fel ymgeisydd wedi deillio oherwydd fy mlog, ac mae’n ddifyr gweld drwy Google Analytics fod yna ystod eang o bobl yn ei ddarllen yn rheolaidd. Mae yna hefyd fanteision annisgwyl wedi deillio o gychwyn blog. Dwi wedi gwneud nifer o ffrindiau da ymysg y gymuned blogio a heblaw am ambell eithriad, mae nhw wedi bod yn hynod o groesawgar a chefnogol. Ydi, mae nhw'n barod i bryfocio, trafod, anghytuno a styrio ond dyna hwyl y peth! Mi fysa'n ddiflas iawn tasa pawb yn cytuno hefo pob un gair!

Dwi’n trio bod yn hollol onest yn fy mlog. Ella mod i’n rhannu gormod weithiau, ond eto, taswn i mond yn blogio am bethau gwleidyddol fysa darllenwyr fy mlog ddim yn dod i fy nabod i fel person. Wrth gwrs, mae yna bethau dwi'n cadw i fi fy hun ond dwi byth yn celu'r hyn dwi'n ei feddwl, a gobeithio felly bydd darpar etholwyr yn teimlo bod nhw'n medru ymddiried ynddai. Mae'n handi hefyd medru ymateb pan mae rhywun yn ymosod arna'i a chael cyfle i ddeud fy neud, heb boeni bod rhywun arall yn mynd i'w olygu.

Dwi'n ategu'r hyn ddywedodd Bethan Jenkins ynglŷn â'r angen i gael mwy o ferched yn rhan o'r blogosffer Cymreig. Da ni yn lleiafrif amlwg iawn, ac mae hynny yn biti garw yn fy marn i. Mi fysa'n braf cael cydbwysedd ac efallai wedyn y byddai'r ambell idiot rhywiaethol sydd yn hoff o adael sylwadau ffiaidd yn rhoi'r gorau iddi. Diolch byth bod rhywun o leiaf yn medru atal rhywun rhag gadael sylw dienw - mae pethau'n sicr wedi gwella ers imi ddechrau gwneud hynny.

O ran y blogiau yng Nghymru, dwi'n meddwl bod nhw'n llenwi'r bwlch sydd yn bodoli yn y wasg Gymreig. Mae'n syndod faint o straeon y gwelwch chi'n ymddangos yn y Western Mail neu ar y BBC sydd wedi dechrau ar flog. Mae gwleidyddion yn sicr yn ofnus iawn ohonyn nhw bellach, yn arbennig ar ôl yr hyn ddigwyddodd gyda Rhodri Glyn a'r sigâr. Un llithriad cyhoeddus a gall yr holl fyd fod yn ymwybodol ohono fwy neu lai yn syth diolch i flogiau! Dwi hefyd yn cael o'n gyffrous bod yna nifer o newyddiadurwyr yng Nghymru yn flogwyr eu hunain ac yn cael cyfle i fod yn fwy deifiol weithiau na fysa nhw mewn print neu ar yr awyr. Dyna pam dwi'n ofalus iawn i beidio mynd rhy bell ar fy mlog - yn wahanol i Lembit Opik dwi ddim o'r farn bod unrhyw fath o gyhoeddusrwydd, boed hynny'n gadarnhaol neu'n negyddol, yn beth da!

Mae yna rai yn darogan y bydd blogiau yn marw allan. Dwi ddim yn credu hynny. Mewn gwlad fach fel Cymru, dwi'n meddwl mai cynyddu mewn pwysigrwydd wnawn nhw wrth i fwy a mwy o bobl ddechrau edrych ar y we am wybodaeth a newyddion. Yn wir, mae yna rywbeth democrataidd iawn am flog gan fod o'n rhoi llais i bawb sydd eisiau lleisio eu barn. Felly da chi, parhewch i flogio'r rhai hynny ohona chi sydd wrthi a'r gweddill ohona chi sydd yn ddarllenwyr, wel pam ddim dechrau blog? Mae'n sicr yn brofiad, ac yn rhywbeth dwi wedi mwynhau ei wneud gymaint mwy na o'n i'n disgwyl. Er bod yna ambell i ddyn ofn fy nghofyn i allan ar ddet erbyn hyn rhag mi sgwennu amdanyn nhw ar fy mlog!

(Written by Heledd Fychan, Plaid Cymru's candidate in Montgomeryshire for the next General Election, Welsh blogger, creator and author of the Pendroni blog)

This is the seventeenth of a series of posts giving a chance for Welsh bloggers to have their say on the state of the blogosphere and where it's going. If you're interested in contributing place feel free to contact me at http://www.blogger.com/welshbloggers@gmail.com

One response to “Fy Mlogosphere Cymraeg - Heledd Fychan”

Anonymous said...

any chance of a translation in the name of bi-lingualism -Ta :>)

Leave a reply

Comments are welcome and encouraged. Please make sure to keep comments relevant to the blog post (this applies to any links that may be included).

Rude, wasteful, off-topic are discouraged but will not be deleted. If you want to make yourself look like an idiot you're very much welcome to.

Comments are open and unmoderated (unless you are commenting on an article over 5 days old), and do not necessarily reflect the views of Welsh Bloggers In The Pub.

 
© 2009 Welsh Bloggers. All Rights Reserved | Powered by Blogger
Design by psdvibe | Bloggerized By LawnyDesignz